Mae Capel Coffa yn eglwys sydd â thraddodiadau arbennig iddi. Mae rhif yr aelodaeth tua wyth deg ar hyn o bryd a daw oddeutu hanner yr aelodau i addoli ar fore Sul. Bydd yr aelodau yn arwain gwasanaeth tua pedair gwaith y flwyddyn, a cheir datganiadau gan y côr.
Bydd nifer fechan o blant yn cyfarfod yn achlysurol yn yr ysgoldy ar fore Sul, ac yn cymryd rhan mewn gwasanaethau arbennig o bryd i'w gilydd.
Ar nosweithiau Llun yn ystod y gaeaf bydd y Gymdeithas yn cyfarfod. Bydd yr ysgoldy yn llawn, a cheir rhaglen ddiddorol bob tro.
Ar foreau Dydd Mercher ddwy waith y mis, rhwng 10 15 a 11 15, ceir cyfle i aelodau a chyfeillion gyfarfod i gymdeithasu dros baned. Mae enw addas iawn i'r gymdeithas hon, sef Drws Agored, ac mae'n parhau i fod yn boblogaidd iawn.
Nodwedd amlwg ac arbennig Capel Coffa yw ei chroeso a'i chynhesrwydd - mae croeso cynnes i'w gael yn holl weithgareddau yr eglwys.
Mae'n bleser cyflwyno'r wefan.